Uwch Erlynydd y Goron (Medi 24)

Crown Prosecution Service

Apply before 11:55 pm on Sunday 6th October 2024

 

Details

Reference number

368816

Salary

£51,260
£51,260 - £59,000 (Genedlaethol) £56,550 - £66,350 +£3,150 o Lwfans Recriwtio a Chadw (RRA) (Llundain) – Gweler y pecyn ymgeiswyr am ddadansoddiad llawn o’r cyflog yn ôl lleoliad
A Civil Service Pension with an employer contribution of 28.97%

Job grade

Grade 7
SCP

Contract type

Permanent

Business area

Cenedlaethol

Type of role

Legal Services

Working pattern

Flexible working, Full-time, Part-time

Number of jobs available

14

Contents

Cardiff, Mold, Swansea

Job summary

Fel uwch erlynydd y goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron (CPS), rydych yn gweithio ar rai o’r achosion mwyaf cymhleth a heriol, o droseddau twyll a drylliau i drefn gyhoeddus a dynladdiad corfforaethol. 

Mae uwch erlynwyr y goron yn gyfreithwyr profiadol sydd wedi’u hyfforddi’n dda, sy’n meddu ar sgiliau pobl rhagorol ac sy’n frwd dros weinyddu cyfiawnder. Swydd mewn swyddfa yw hon i raddau helaeth. Rydych yn gyfrifol am adolygu tystiolaeth a phenderfynu a ddylid erlyn achos – yn unol â’n Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron. Rydych chi wedi'ch lleoli mewn un o dair uned - llys ynadon, Llys y Goron, trais rhywiol a throseddau rhywiol difrifol - yn dibynnu ar lefel eich profiad.

Rydych yn cynrychioli Gwasanaeth Erlyn y Goron ar y rheng flaen, gan gydweithio’n agos â chydweithwyr ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill, gan gynnwys yr heddlu a’r farnwriaeth. Rydych yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gynnal hyder y cyhoedd yn ein gwaith.

Byddwch yn elwa o gynllun hyfforddiant cynefino strwythuredig pedwar mis, a chyfleoedd i gysgodi cydweithwyr ar draws y sefydliad. Ar ôl i chi gael rhagor o brofiad, mae gennych opsiynau i symud ymlaen i rolau rheolwr cyfreithiol ac eiriolwr y goron. 

Dysgwch beth mae ein uwch erlynwyr y goron yn ei ddweud am weithio yn y CPS yn cps.gov.uk/careers/prosecutor

Job description

Eich rolau a’ch cyfrifoldebau:

  • Cynghori’r heddlu ac ymchwilwyr eraill ar ofynion gwaith achos a thystiolaeth ar gyfer ystod eang o droseddau.
  • Adolygu ffeiliau achos a phenderfyniadau ynghylch cyhuddo, darparu cyngor cyfreithiol a gwneud y penderfyniad terfynol, ar sail tystiolaeth, ynghylch a ddylid erlyn ar achosion ar gyfer y llys ynadon a Llys y Goron.
  • Ymgymryd ag eiriolaeth mewn perthynas ag achosion difrifol a sensitif yn y llysoedd ynadon gan gynnwys Llysoedd Ieuenctid, rhestrau llysoedd pan y rhagwelir ple dieuog, a threialon aml-ddiwrnod.
  • Egluro ein penderfyniadau’n glir i randdeiliaid gan gynnwys ynadon, bargyfreithwyr, dioddefwyr, tystion a’r heddlu.
  • Gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm aml-fedrus a chynnal gwybodaeth gyfredol am droseddau.

Mae gan bob ardal CPS Lys y Goron, llys ynadon, a thîm trais rhywiol a throseddau rhywiol difrifol (RASSO). Fel uwch erlynydd y goron, mae disgwyl i chi allu gweithio yn unrhyw un o’r timau hyn er y byddwn yn ystyried eich profiad a, lle bo’n bosibl, eich dewis personol cyn eich rhoi mewn tîm.    

Pa bynnag dîm y byddwch yn ymuno ag ef, byddwch yn cael eich cefnogi gyda chynllun hyfforddi a chynefino manwl ar gyfer eich pedwar mis cyntaf gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron.   

Gan weithio yn ein tîm Llys y Goron, mae gennych lwyth achosion personol o waith achos difrifol. Rydych yn rhoi cyngor ar gyhuddo i’r heddlu ar achosion sydd i’w clywed yn Llys y Goron, gan weithio gyda’n swyddogion paragyfreithiol a gyda’r cwnsler i baratoi achosion ar gyfer y llys.    

Yn ein tîm llysoedd ynadon, rydych yn eiriolwr sy’n delio â’r ystod lawn o lysoedd gan gynnwys llysoedd treial. Mae gennych lwyth achosion personol, gan roi cyngor cyn cyhuddo i’r heddlu ar achosion llys ynadon ac rydych yn paratoi achosion ar gyfer y llys. Efallai y byddwch yn gweithio ar dîm arbenigol fel tîm cam-drin domestig neu dîm ieuenctid.  

Yn ein tîm RASSO, mae gennych lwyth achosion personol sy’n cynnwys trais rhywiol a throseddau rhywiol difrifol. Rydych yn rhoi cyngor dangosol cynnar a chyngor ar gyhuddo i’r heddlu ar achosion RASSO, gan weithio gyda’n staff paragyfreithiol a’r cwnsler i baratoi achosion ar gyfer y llys.

Person specification

  • Rhaid i chi fod yn gyfreithiwr cymwys sy’n ymarfer ac sydd â phrofiad o gyfraith droseddol. 
  • Rhaid i chi ddangos eich ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus, gwneud gwahaniaeth i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac i werthoedd Gwasanaeth Erlyn y Goron. 
  • Rydych yn canolbwyntio ar ddatblygiad personol a datblygiad gyrfa. 

Qualifications

Meddu ar gymhwyster cyfreithiol: Rhaid i chi fod yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr cymwysedig sy’n meddu ar Dystysgrif Ymarfer ddilys ar gyfer Cymru a Lloegr.

Academaidd: Rhaid i chi fod â gradd yn y gyfraith, Arholiad Proffesiynol Cyffredin a/neu Ddiploma Graddedig yn y Gyfraith.

Proffesiynol: Rhaid i chi fod wedi cwblhau Cwrs Ymarfer Cyfreithiol, Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr neu Gwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar a’r cyfnod prawf a chontract hyfforddiant perthnasol – neu wedi cael eich eithrio’n llawn gan y corff rheoleiddio proffesiynol perthnasol, naill ai’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr neu Fwrdd Safonau’r Bar.

neu
CILEx: Rhaid i chi fod yn Gymrawd CILEx ac yn Eiriolwr/Ymgyfreithiwr CILEx sy’n dal y tair tystysgrif eiriolaeth sy’n rhoi ‘cymhwyster cyffredinol’ i chi o fewn ystyr a.71 (3) (c) Deddf Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990. Rhaid bod gennych hawl i ymddangos mewn perthynas ag unrhyw ddosbarth o achosion mewn unrhyw ran o’r Uwch Lysoedd, neu bob achos mewn llysoedd sirol neu lysoedd ynadon er mwyn bodloni’r gofynion ar gyfer Erlynydd y Goron a bennir gan adran 1 Deddf Erlyn Troseddau 1985. Os nad oes gennych y cymhwyster CILEx hwn, nid ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd hon. Os nad ydych yn siŵr a ydych wedi cymhwyso drwy CILEx, cysylltwch â ni i gadarnhau eich bod yn gymwys ar gyfer y swydd hon.

Os byddwch yn gwneud cais ac os canfyddir nad ydych yn meddu ar unrhyw un o’r uchod, bydd unrhyw gynnig cyflogaeth yn cael ei dynnu’n ôl, neu bydd y contract yn cael ei derfynu.

Ni dderbynnir cymwysterau cyfwerth. Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys ai peidio, cysylltwch â NationalLawyerRecruitment@cps.gov.uk

Rhaid bodloni’r meini prawf cymhwysedd erbyn dydd Llun 02 Rhagfyr 2024. Os ydych yn gallu cael Tystysgrif Ymarfer ddilys a'ch bod wedi cymhwyso'n llawn erbyn y dyddiad hwn, rydych yn gymwys i wneud cais.

Os bydd unrhyw gyfyngiadau neu drefniadau arbennig ynghylch eich Tystysgrif Ymarfer, gofynnwn i chi roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl, drwy e-bost.

Behaviours

We'll assess you against these behaviours during the selection process:

  • Making Effective Decisions
  • Communicating and Influencing
  • Delivering at Pace

Technical skills

We'll assess you against these technical skills during the selection process:

  • Rhaid i chi fod â gradd yn y gyfraith, Arholiad Proffesiynol Cyffredin a/neu Ddiploma Graddedig yn y Gyfraith.
  • Rhaid i chi fod wedi cwblhau Cwrs Ymarfer Cyfreithiol, Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr neu Gwrs Galwedigaethol y Bar/Cwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar, ac wedi cwblhau’r cyfnod prawf / contract hyfforddiant perthnasol
  • Rhaid i chi fod yn Fargyfreithiwr neu’n Gyfreithiwr cymwysedig
  • Rhaid i chi ddangos cymhelliant
  • Rhaid i chi ddangos gwybodaeth gyfreithiol ddigonol
Alongside your salary of £51,260, Crown Prosecution Service contributes £14,850 towards you being a member of the Civil Service Defined Benefit Pension scheme. Find out what benefits a Civil Service Pension provides.

Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod ein gweithwyr yn gallu ffynnu yn y gwaith ac yn y cartref, ac rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth i sicrhau cydbwysedd. Mae hyn yn cynnwys oriau gweithio hyblyg, hyblygrwydd i gefnogi cyfrifoldebau gofalu ac agwedd hyblyg at leoli. Mae gennym bolisi gweithio hybrid. O fis Medi 2024 ymlaen, rhaid i chi dreulio o leiaf 40% o’ch oriau contract dros gyfnod o bedair wythnos yn y llys, mewn swyddfa neu mewn gweithle swyddogol arall yn dibynnu ar anghenion busnes a’r math o waith rydych chi’n ei wneud.

Mae darparu cyfiawnder yn weithgaredd cymhleth gyda gwaith sydd weithiau’n heriol yn emosiynol, a dyna pam ein bod yn cynnig amrywiaeth o fuddion, gan gynnwys: 
 

  • pensiwn cyfrannol y Gwasanaeth Sifil o hyd at 27% 
  • 25 diwrnod o wyliau bob blwyddyn, yn codi i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth 
  • diwrnod braint ychwanegol i nodi pen-blwydd y Brenin 
  • absenoldeb cystadleuol o ran mamolaeth, tadolaeth ac absenoldeb rhieni 
  • gweithio hyblyg ac agwedd tuag at waith sy’n ystyriol o deuluoedd 
  • cynllun Seiclo i'r Gwaith, cynilion gweithwyr 
  • amrywiaeth o weithgareddau dysgu a datblygu, cyfrif dysgu unigol, a chyfleoedd datblygu canolog a lleol. 

Selection process details

This vacancy is using Success Profiles (opens in a new window), and will assess your Behaviours, Experience and Technical skills.

Mae’r swydd wag hon yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant (yn agor mewn ffenestr newydd) ac yn asesu eich Ymddygiad, eich Profiad a’ch Sgiliau Technegol.

 

Cais

CV
Llwythwch i fyny CV cyfredol sy’n cynnwys y canlynol: 

 

  • Hanes cyflogaeth/academaidd tair blynedd  
  • Sgiliau a phrofiad 
  • Cyflawniadau 
  • Cymwysterau 

 

Bydd angen i chi atodi eich CV fel un ddogfen ddienw sy’n cynnwys dim mwy na dwy dudalen A4 i roi cipolwg i'r panel ar eich hanes gwaith a'ch profiad. Gofynnwn i chi beidio â darparu manylion personol a allai ddatgelu pwy ydych chi, hy enw/oedran/cyfeiriad cartref. 

 

Sylwch:

 

Eich cyfrifoldeb chi yw darparu’r wybodaeth benodol ar gyfer y cais yn y fformat y gofynnir amdano er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich ystyried ar gyfer y swydd. 

 

Os na allwch gwmpasu tair blynedd drwy hanes cyflogaeth/academaidd, bydd angen geirda cymeriad at ddibenion clirio. 


Data personol
Yn unol â GDPR, peidiwch ag anfon unrhyw wybodaeth atom sy’n gallu datgelu hunaniaeth plant, nac unrhyw ddata personol sensitif amdanoch chi eich hun fel hil neu darddiad ethnig, safbwyntiau gwleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb llafur, data sy’n ymwneud ag iechyd neu fywyd rhywiol a chyfeiriadedd rhywiol, data genetig a/neu fiometrig yn eich CV a’ch dogfennau cais.

Asesiad a chyfweliad

 

  • Asesiad cyfreithiol (o’r wythnos sy’n dechrau 21 Hydref – 1 Tachwedd 2024)

Os ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd, cewch eich gwahodd i gyfarfod Microsoft Teams ar-lein i gwblhau asesiad cyfreithiol, cyflwyno eich atebion ac ymateb i gwestiynau dilynol. Byddwch yn cael awgrymiadau ar gyfer ymchwil cyffredinol ymlaen llaw.

 

  • Cyfweliad terfynol (o'r wythnos sy'n dechrau 18 Tachwedd - 29 Tachwedd 2024 )

Os byddwch yn pasio’r asesiad cyfreithiol, byddwch yn cael eich gwahodd i gyfarfod Microsoft Teams lle byddwch yn cael eich cyfweld gan banel Gwasanaeth Erlyn y Goron i asesu pa mor addas ydych chi ar gyfer y rôl.

Gall y dyddiadau hyn newid ac nid yw bob amser yn bosibl cynnig dyddiadau eraill.


Rydych yn trefnu eich slot asesiad a chyfweliad eich hun drwy Swyddi’r Gwasanaeth Sifil. Ar ôl i chi ddewis eich slot amser, byddwn yn anfon dolen Microsoft Teams atoch.

Mae amrywiaeth yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron yn ymwneud â chynhwysiant, croesawu gwahaniaethau a sicrhau bod ein gweithle wirioneddol yn adlewyrchu'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu. Rydyn ni eisiau i chi deimlo eich bod chi'n perthyn ac yn gallu ffynnu, beth bynnag yw eich cefndir, eich hunaniaeth neu eich diwylliant. Fel cyflogwr sy'n hyderus o ran anabledd, rydyn ni'n hapus i gefnogi ceisiadau am addasiadau rhesymol a gwella eich profiad o’r broses recriwtio. Os hoffech i ni wneud unrhyw addasiadau rhesymol i'n proses recriwtio, rhowch wybod yn eich furflen gais neu cysylltwch â NationalLawyerRecruitment@cps.gov.uk

Gwneud cynigion
Gallwch ddewis tri lleoliad swyddfa o'r rhestr a ddarperir. Os byddwch yn llwyddiannus, ein nod yw cynnig un o'ch dewisiadau yn y lle cyntaf. Er y gwneir pob ymdrech i ddarparu ar gyfer eich dewisiadau o ran lleoliad, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn sefydliad cenedlaethol sydd â gwahaniaethau o ran adferiad gweithredol, lefelau swyddi gwag a llwyth achosion ledled y wlad – sy’n golygu y gallech gael cynnig rôl mewn ardal Gwasanaeth Erlyn y Goron arall sydd y tu allan i’r ardal a ddewiswyd gennych.


Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, cewch eich asesu a’ch cyfweld gan banel priodol a gwneir cynigion yn nhrefn teilyngdod.

Sylwch mai’r ymddygiad arweiniol yn ystod y cyfweliad yw Gwneud Penderfyniadau Effeithiol. Efallai y byddwn yn defnyddio hyn i benderfynu ar drefn teilyngdod lle mae gan ymgeiswyr yr un sgôr gyffredinol.

 

Arall

Swydd amser llawn yw hon. Fodd bynnag, ystyrir ceisiadau am weithio hyblyg, rhan-amser a rhannu swydd – gan ystyried anghenion gweithredol yr adran.

Mae’r rôl hon yn gymysgedd o weithio gartref, gweithio mewn swyddfa a theithio i’r llysoedd. Mae sut y bydd yn cael ei rannu yn dibynnu ar anghenion y busnes.

Rydym yn eich annog i ystyried a yw’r daith o’ch cartref i’r swyddfa yn bellter teithio ymarferol cyn gwneud cais. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn trafod hyn cyn i chi ddechrau yn y swydd.

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi’i leoli yng Nghymru a Lloegr. Os ydych yn gwneud cais am y swydd hon ac yn byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i chi roi gwybod i ni wrth dderbyn y cynnig hwn gan fod angen caniatâd arnoch i weithio o’ch cyfeiriad cartref os yw gweithio hybrid yn rhan o’ch rôl. Yn anffodus, does dim sicrwydd y bydd y gymeradwyaeth hon yn cael ei rhoi.

Mae’r swydd rydych yn gwneud cais amdani yn dod o dan Erthygl 3(a) o Orchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975, felly nid yw Adran 4(2) y Ddeddf honno’n berthnasol. Am y rhesymau a amlinellir uchod, mae’n ofynnol i chi ddatgelu pob euogfarn a rhybudd blaenorol, gan gynnwys euogfarnau sydd wedi darfod.  Bydd methu â gwneud datganiad llawn yn arwain at dynnu cynnig swydd yn ôl os bydd ein gwiriadau yn datgelu euogfarnau nad ydynt wedi cael eu datgelu.

 

Rhestr wrth gefn
Os bydd yr holl swyddi’n cael eu llenwi ar gyfer y lleoliad(au) o’ch dewis, byddwch yn cael eich rhoi ar restr wrth gefn. Efallai y cysylltir â chi ynghylch cyfle mewn lleoliad nad yw’n ddewis cyntaf gennych. Gwneir cynigion bob amser yn nhrefn teilyngdod.

Efallai y bydd achosion lle cewch y cyfle i weithio ar dîm erlyn canolog – i gwblhau gwaith o bell ar gyfer ardaloedd busnes ledled Cymru a Lloegr. Petai’n cael ei gynnig, byddai hyn am gyfnod o 12 mis o leiaf gyda’r posibilrwydd o estyniad hyd at 24 mis. Ar ôl ei gwblhau, byddwch wedyn yn dychwelyd yn barhaol i ardal Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Bydd y rhestr wrth gefn yn dod i ben 12 mis ar ôl cynnal y cyfweliadau ac ni ellir gwarantu swyddi ar gyfer eich dewis cyntaf.

Amserlen
Gweler y pecyn i ymgeiswyr i weld yr amserlen a drefnwyd. Mae’n bosibl y bydd y dyddiadau sy’n cael eu hysbysebu yn newid ac efallai na fydd yn bosibl cynnig dyddiadau eraill ar gyfer asesiadau neu gyfweliadau.

Os ydych yn bodloni’r gofynion cymhwysedd, cewch eich gwahodd i asesiad gydag o leiaf bum diwrnod gwaith o rybudd. Os na allwch fod ar gael ar y dyddiad hwn, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl a cheisiwn aildrefnu – er na allwn warantu hynny.

 

Sesiynau cwrdd ac ymgysylltu
Rydym yn cynnal sesiwn holi ac ateb ar-lein pan fydd y swydd wag yn fyw. Dyma eich cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau am y rôl neu’r broses recriwtio. Gallwch gofrestru ar gyfer hyn yma:

 

 

Gwiriad Twyll
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn darparu Hysbysiad Prosesu Teg i bob ymgeisydd newydd ar ôl iddynt fod yn llwyddiannus yn y cyfweliad. Rhoddir gwybod i’r ymgeiswyr hyn, fel un agwedd ar sgrinio cyn cyflogi, bod eu manylion personol – enw, rhif Yswiriant Gwladol a dyddiad geni – yn cael eu gwirio yn erbyn y Gronfa Ddata Bygythiadau Mewnol. Ni fyddwn yn cyflogi unrhyw un sydd wedi’i gynnwys ar y gronfa ddata oni bai eu bod yn gallu dangos amgylchiadau eithriadol.

Comisiwn y Gwasanaeth Sifil
Os ydych yn anfodlon â’r broses recriwtio a’ch bod yn dymuno cwyno, cysylltwch â strategic.resourcing@cps.gov.uk gyda’ch pryderon. 
Os ydych yn dal yn anfodlon ac yn dymuno gwneud cwyn arall, gallwch wneud hynny drwy dudalen gwyno Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.  



Feedback will only be provided if you attend an interview or assessment.

Security

Successful candidates must undergo a criminal record check.
People working with government assets must complete baseline personnel security standard (opens in new window) checks.

Nationality requirements

This job is broadly open to the following groups:

  • UK nationals
  • nationals of the Republic of Ireland
  • nationals of Commonwealth countries who have the right to work in the UK
  • nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities with settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS) (opens in a new window)
  • nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities who have made a valid application for settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS)
  • individuals with limited leave to remain or indefinite leave to remain who were eligible to apply for EUSS on or before 31 December 2020
  • Turkish nationals, and certain family members of Turkish nationals, who have accrued the right to work in the Civil Service
Further information on nationality requirements (opens in a new window)

Working for the Civil Service

The Civil Service Code (opens in a new window) sets out the standards of behaviour expected of civil servants.

We recruit by merit on the basis of fair and open competition, as outlined in the Civil Service Commission's recruitment principles (opens in a new window).
The Civil Service embraces diversity and promotes equal opportunities. As such, we run a Disability Confident Scheme (DCS) for candidates with disabilities who meet the minimum selection criteria.
The Civil Service also offers a Redeployment Interview Scheme to civil servants who are at risk of redundancy, and who meet the minimum requirements for the advertised vacancy.

Diversity and Inclusion

The Civil Service is committed to attract, retain and invest in talent wherever it is found. To learn more please see the Civil Service People Plan (opens in a new window) and the Civil Service Diversity and Inclusion Strategy (opens in a new window).
This vacancy is part of the Great Place to Work for Veterans (opens in a new window) initiative.
Once this job has closed, the job advert will no longer be available. You may want to save a copy for your records.

Contact point for applicants

Job contact :

  • Name : National Lawyer Recruitment Team
  • Email : NationalLawyerRecruitment@cps.gov.uk

Recruitment team

  • Email : strategic.resourcing@cps.gov.uk

Share this page